Newyddion S4C

Mân anafiadau i ddynes yn Llangefni wedi i ddyn geisio dwyn ei chi

15/01/2023
Heddlu
Heddlu

Cafodd dynes fân anafiadau yn dilyn ymgais i ladrata ei chi yn Llangefni brynhawn dydd Sadwrn.

Am tua 15:00 roedd y ddynes yn mynd â’i chi am dro mewn coetir yn y dref sy’n arwain o hen fynedfa’r coleg ar Ffordd Penmyndd, pan ddaeth dyn ati a mynnu ei bod yn rhoi ei chi iddo, cyn rhedeg i gyfeiriad Stad Pencraig.

Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel dyn yn ei ugeiniau cynnar gydag acen Wyddelig ac roedd yn gwisgo balaclafa du a thop tywyll.

Mae'r heddlu'n cynnal ymholiadau o dŷ i dŷ ac yn edrych ar luniau teledu cylch cyfyng, ac mae rhagor o batrolau wedi eu cynnal yn yr ardal.

Mae swyddogion yn annog unrhyw un a allai fod wedi bod yn yr ardal ac a allai fod wedi gweld ymddygiad amheus i gysylltu gyda nhw gan ffonio ar 101 neu dros y we gan ddefnyddio'r cyfeirnod A006531.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.