Apêl am wybodaeth wedi i fenyw 59 oed farw mewn gwrthdrawiad
14/01/2023
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i fenyw farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A467 rhwng Crymlyn ac Aber-big ddydd Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar, Ford Ka du a Citroen C1 glas, a lori am 13:20.
Cafodd gyrrwr y Ford Ka, dynes 59 oed o ardal Casnewydd ei chludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu'n apelio am lygaid-dystion i'r digwyddiad neu unrhyw un sydd gyda lluniau camera dash-cam i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300012861.
Llun: Google