Newyddion S4C

Ail-agor Clwb y Bont yn dilyn llifogydd ddydd Iau

13/01/2023
Clwb y Bont

Fe fydd Clwb y Bont ym Mhontypridd y ail-agor dros y penwythnos er gwaethaf rhagor o ddifrod gan lifogydd ddydd Iau. 

Fe wnaeth y clwb ofyn am gymorth pobl leol ddydd Iau wedi i lifogydd daro'r adeilad unwaith eto. 

Daw hyn wrth i law trwm achosi llifogydd, toriadau trydan a thrafferthion treithio mewn rhai mannau o Gymru. 

Tarodd y llifogydd diweddaraf y clwb dim ond ychydig wythnosau wedi iddo ail-agor wedi dioddef difrod sylweddol yn ystod Storm Dennis yn 2020. 

Ond mae'r clwb bellach wedi cyhoeddi ei fydd ar agor ar gyfer dathliadau Hen Galan ar ddydd Sadwrn. 

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth y clwb ddiolch i bobl lleol am eu help wrth lanhau'r clwb. 

"Ar ôl yr ymdrech fawr, da ni'n hapus i ddweud ein bod wedi cael sêl bendith yr arolygwyr iechyd yr amgylchedd i ailagor yfory ar gyfer ein dathliadau Hen Galan!"

"Diolch eto am eich help ac am y dymuniadau da i gyd, a gobeithio gweld chi gyd nos yfory!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.