Sunak yn cadarnhau ei fod yn ystyried atal deddf ddatganoledig
Mae Rishi Sunak wedi cadarnhau fod ei Lywodraeth yn ystyried atal deddf ddatganoledig am y tro cyntaf.
Roedd yn “pryderu” y gallai deddf Newydd yr Alban sy’n caniatáu i bobol newid eu rhyw yn haws nag o’r blaen gael effaith ar weddill y DU, meddai.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth Good Morning Scotland ei fod yn cymryd cyngor ar sut i symud ymlaen.
“Pan fydd Senedd yr Alban yn pasio deddf mae’n gwbl normal i lywodraeth y DU gymryd cyngor ar effaith y gyfraith honno ar draws y wlad ac yna ystyried sut orau i symud ymlaen,” meddai.
Ond mae’r posibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU atal deddf ddatganoledig wedi codi pryderon yng Nghymru yn ogystal.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yr wythnos hon: “Mae ymateb Llywodraeth y DU wedi bod yn syndod.
“Maen nhw’n bygwth defnyddio pwerau sydd heb eu defnyddio drwy gydol hanes datganoli.”
‘Polareiddio’
Ychwanegodd Mark Drakeford ddydd mawrth y byddai Cymru yn cydnabod rhyw unrhyw un oedd yn ei newid yn yr Alban a bod Llywodraeth Cymru eisiau’r grymoedd i gyhoeddi deddfwriaeth debyg.
“Mae hwn wedi bod yn ddadl sydd wedi polareiddio pobol, a rôl gwleidyddion yn fy marn i yw annog trafodaeth yn lle gwrthdaro,” meddai.
“Ges i fy synnu gan ymateb Llywodraeth y DU - maen nhw’n bygwth defnyddio pŵer sydd erioed wedi ei ddefnyddio yn hanes datganoli.
“Ac ymddengys eu bod nhw'n dweud na fydden nhw’n derbyn tystysgrif cydnabod rhyw o’r Alban pan maen nhw eisoes yn cydnabod tystysgrifau [o wledydd eraill].
“Mae nifer o’r cenhedloedd rheini yn defnyddio’r un broses hunan-ddatgan a’r Alban.
“Felly pan mae gyda ni broses sy’n adnabod tystysgrifau o rannau eraill o’r byd mae’n rhyfedd nad ydyn nhw’n fodlon cydnabod tystysgrif sydd wedi ei greu mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.
“Hoffwn i ddweud hyn er mwyn bod yn hollol glir - os oes unrhyw un yn derbyn tystysgrif cydnabod rhyw yn yr Alban ac yn dod i Gymru fe fydd y dystysgrif yn cael ei gydnabod yma.”