Apwyntio Prif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru
Mae'r Athro Jas Pal Badyal wedi'i benodi yn Brif Gynghorydd Gwyddonol newydd Llywodraeth Cymru.
Fe fydd Yr Athro Badyal yn ymuno â Llywodraeth Cymru o Brifysgol Durham, lle bu'n athro yn yr adran Gemeg.
Mae'n cymryd lle'r Athro Peter Halligan, a wnaeth ymddeol o'r rôl yn 2022.
Pwrpas y swydd yw rhoi cyngor am wyddoniaeth i'r Prif Weinidog a gweinidogion y llywodraeth. Bydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu gallu Llywodraeth Cymru yn y maes a chefnogi gwaith ymchwil yng Nghymru.
Wrth ymateb i'w benodiad, dywedodd Yr Athro Badyal ei fod yn "llawn cyffro" i ddechrau'r rôl newydd.
"Rwy'n llawn cyffro i gael y cyfle hwn i gyfrannu tuag at feithrin economi sgiliau uchel, uwch-dechnoleg, gan helpu i gael effaith gadarnhaol a lles i bobl Cymru," meddai.
"Mae gan Gymru botensial fawr i ddod yn arweinydd byd o ran datblygiadau arloesol technolegol ac yn targedu rhai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw."
Fe fydd Yr Athro Badyal yn dechrau yn y swydd newydd ym mis Chwefror.