Newyddion S4C

Y galw am lechi Cymreig yn arwain at swyddi newydd yng Ngwynedd

Y galw am lechi Cymreig yn arwain at swyddi newydd yng Ngwynedd

Newyddion S4C 10/01/2023

Gyda galw mawr o bedwar ban byd am lechi o Gymru, mae yna swyddi newydd ar fin cael eu creu mewn chwareli yng Ngwynedd. 

Fe fydd chwarel y Penrhyn ym Methesda yn ehangu ei gwasanaethau tra bod chwareli Ffestiniog a Chwt y Bugail ym Mlaenau Ffestiniog ar fin ail-agor ar ôl bod ar gau ers dros ddegawd. 

Mae'r cynlluniau i ymestyn chwarel y Penrhyn ym Methesda yn diogelu 115 o swyddi ac fe fydd swyddi newydd hefyd yn cael eu creu maes o law. Mae 10 swydd newydd eisoes wedi'u creu ar y safle o fewn yr adran gynhyrchu agregau.

Ym Mlaenau Ffestiniog, fe fydd 19 o swydd newydd yn cael eu creu wrth ail-agor hen chwareli yn y dref. Cymysgedd o waith echdynnu a phrosesu fydd yn cael ei wneud yn chwareli Ffestiniog a Chwt y Bugail fel rhan o'r datblygiadau newydd.

Dywed Welsh Slate, sydd eisoes yn gyflogwr mawr yn yr ardal, y bydd ail-agor safleoedd Ffestiniog a Chwt y Bugail yn cynnyddu cyfanswm y gweithlu tua 13%. 

“Mae rhan fwyaf ohonyn nhw yn bobol lleol,” meddai Mike Ford, Rheolwr Gweithrediadau Penrhyn.

“Maen nhw’n dod o fama yn Bethesda, Bangor a Caernarfon ac wrth ymestyn y chwarel mi fydddwn ni’n chwilio am fwy o staff.” 

Image
Mike Ford
Yn ôl Mike Ford, mae yna gyfleoedd hir dymor ar gael yn chwareli Gwynedd

Mae’n awyddus i weld prentisiaid lleol yn dod i weithio ar yr ochr beirianyddol yn ogystal â’r gwaith llechi.

“Geno ni bartneriaeth wedi ei sefydlu efo Ysgol Dyffryn Ogwen a Coleg Menai i drio expandio skill base yma yn Penrhyn,” meddai.

'Galw mawr'

Dywed Welsh Slate fod y swyddi newydd yn deillio o alw enfawr am lechi Cymraeg ar draws y byd. 

Mae chwareli Cymru wedi bod yn cyflenwi’r byd â llechi ers canrifoedd, ac yn cael eu hystyried gan lawer fel y llechi naturiol gorau yn y byd. Mae ganddyn nhw nodweddion unigryw, ar gael naill ai mewn lliw grug (porffor) neu lwydlas.

 “Mae yna alw mawr am y llechen yma ledled y byd” meddai Michael Halley, Cyfarwyddwr Masnachol Welsh Slate. 

“Yn hanesyddol mae hi wedi cael ei hallforio i bedwar ban byd, ac mae’n para tua 150 mlynedd ar do. Mae llawer o’n hallforion wedi bod i Awstralia.

"’Da ni newydd orffen to Eglwys Gadeiriol y Santes Fair yn Sydney sydd â llechi o chwarel Penrhyn a Chwt y Bugail.” 

“Hefyd, y senedd-dy yn Trinidad a Tobago.”

Un o nodweddion llechen y Penrhyn ydy ei bod hi’n gallu cael ei hollti'n denau gan gadw ei chryfder. Mae Mark Briggs wedi bod yn hollti cerrig to chwarel y Penrhyn ers dros 26 mlynedd. Mae’n dweud ei fod yn falch o weld llechi Cymreig ar doeau ar draws y byd.

“Mae’n dda gweld llechi ni mewn llefydd fel Awstralia, llechi o Gymru o Bethesda bach.”

Ond ydy pobl ifanc yn cael eu denu i weithio yn y chwareli y dyddia hyn?  “Na,” meddai, “does dim llawer o bobl ifanc eisiau gweithio yn y chwarel bellach. 

“Mae’n ormod o waith caled!” 

Bydd gweithrediadau chwarel Penrhyn yn parhau tan 2035, gyda gwaith pellach i adfer y safle yn parhau tan 2037.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.