Dynes fu farw tu allan i Ysbyty Glan Clwyd newydd ymweld â'i hwyres newydd-anedig
Roedd dynes a fu farw y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd ar ddiwrnod Calan newydd ymweld â'i hwyres newydd-anedig yno.
Bu farw Mary Owen-Jones o Landrillo-yn-Rhos yng Nghonwy ar 3 Ionawr yn dilyn gwrthdrawiad y tu allan i Ysbyty Glan Clwyd am tua 8.40pm ar y cyntaf o Ionawr.
Clywodd y cwest yn Ruthun ddydd Mawrth fod Ms Owen-Jones wedi dioddef anaf i'w phen ac wedi cael ei chludo i'r adran frys yn yr ysbyty.
Yn fuan y bore canlynol, cafodd ei throsglwyddo i uned trawma yn Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke, lle bu farw ar 3 Ionawr.
Mewn teyrnged iddi, dywedodd ei theulu fod ganddi "angerdd am fywyd a’i theulu ac roedd yn edrych ymlaen yn arbennig at fod yn nain i’w hwyres newydd-anedig, April Rose".
“Bydd colled fawr ar ei hôl gan bawb oedd yn ei hadnabod. Mae'n calonnau ar chwal, a hoffem ofyn am y preifatrwydd priodol i ganiatáu amser i ni alaru," medden nhw.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad.