Gareth Bale wedi ymddeol am ‘nad yw ei gorff fel ag yr oedd’
Penderfynodd Gareth Bale ymddeol “am nad yw ei gorff fel ag yr oedd”, yn ôl ei asiant.
Dywedodd Jonathan Barnett wrth talkSPORT fod y chwaraewyr 33 oed yn teimlo nad oedd yn gallu chwarae ar y lefel uchaf bellach.
“Penderfyniad Gareth yw e’n llwyr, mae’n meddwl mai dyma’r amser iawn, a dwi’n cytuno,” meddai.
“Mae wedi bod ar ei feddwl. Yn amlwg roedd Cwpan y Byd yn rhywbeth yr oedd am ei wneud ac roedd yn gweithio tuag at hynny.
“Rwy’n meddwl ei bod yn wych ei fod wedi gwneud penderfyniad o’r diwedd. Mae'n hapus ac yn fodlon nawr.
“Rwy’n credu ei fod wedi sylweddoli nad yw ei gorff fel ag yr oedd ac nad oedd am roi ei hun drwy hynny mwyach.
“Pan fyddwch chi'n cyrraedd lefel y mae e arni dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig eich bod chi'n camu o’r neilltu ar yr amser iawn.
“Doedd dim angen iddo wneud unrhyw beth arall, mae wedi profi ei hun, mae wedi cyflawni popeth ar ei restr.
“Rwy’n meddwl mai fe yw’r chwaraewr gorau mae Prydain wedi’i gynhyrchu erioed. Pam cario ymlaen? Doedd e ddim yn gallu chwarae ar y lefel yr oedd am ei chwarae mwyach.”
Gyrfa euraidd
Cyhoeddodd Gareth Bale ddoe ei fod yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ac o'i glwb.
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd Bale ei fod yn "ymddeol ar unwaith o bêl-droed clwb ac yn rhyngwladol."
Roedd Bale yn gapten ar dîm pêl-droed dynion Cymru yn ogystal â'n chwarewr i glwb pêl-droed Los Angeles FC yn UDA.
Fe wnaeth gynrychioli Cymru 111 o weithiau, gan sgorio 41 o goliau rhyngwladol.
Mae wedi cael gyrfa euraidd dros ei wlad a'i glwb, gan gynrychioli Cymru yn EURO 2016, EURO 2020 a Chwpan y Byd.
Chwaraeodd hefyd i Tottenham Hotspur a Real Madrid, gan ennill Cynghrair y Pencampwyr bump gwaith gyda'r Galácticos.
Dywedodd Bale mai'r penderfyniad i ymddeol o bêl-droed rhyngwladol oedd y penderfyniad 'anoddaf' y mae wedi ei wneud yn ei yrfa.
"Sut ydw i'n egluro mewn geiriau y ffordd roeddwn i'n teimlo bob tro roeddwn i'n gwisgo crys Cymru?
"Yr ateb ydy na fyddwn i'n gallu gwneud cyfiawnder hefo hyn mewn geiriau.
"Mae fy nhaith ar lwyfan pêl-droed rhyngwladol yn un sydd nid yn unig wedi newid fy mywyd, ond mae wedi fy newid i fel unigolyn.
"Mae bod yn Gymro a chael fy newis i chwarae a bod yn gapten dros Gymru wedi rhoi rhywbeth na allaf gymharu ag unrhyw beth arall dwi wedi ei brofi yn fy mywyd.
"Felly am y tro, dwi'n camu yn ôl, ond ni fyddaf yn gadael y tîm sydd yn parhau i fyw ynof fi. Wedi'r cwbl, y ddraig ar fy nghrys ydy'r unig beth dwi ei angen."