Lansio roced am y tro cyntaf o dir Prydain wedi methu
Mae'r prosiect lansio roced cyntaf o dir Prydain wedi methu.
Ar ôl cychwyn o Gernyw, teithiodd yr awyren Virgin Orbit oedd yn cynnwys naw lloeren fach, i uchder o 35,000 troedfedd dros Gefnfor yr Iwerydd.
Dywedodd un o drefnwyr y daith ‘Start Me Up’ fod y roced - gyda chefnogaeth gan gwmniau awyr ac amddiffyn - wedi methu a chyrraed orbit.
Mewn cyfres o drydariadau, dywedodd Virgin Orbit: “Mae’n ymddangos bod gennym ni anghysondebau sydd wedi ein hatal rhag cyrraedd orbit. Rydym yn gwerthuso'r wybodaeth.
“Wrth i ni ddarganfod mwy, rydyn ni’n dileu ein trydariad blaenorol am gyrraedd orbit. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth pan allwn.”
Yn gynnar fore Mawrth, fe gyhoeddodd prif weithredwr Virgin Orbit, Dan Hart ddatganiad yn dweud:
“Mae’n ymddangos bod methiant technegol wedi ein hatal rhag cyflawni’r orbit terfynol.
“Tra bod peirianwyr yn ceisio sefydlu beth aeth o'i le, dychwelodd yr awyren i Spaceport Cornwall yn ddiogel.”