Cyffreithiau streicio newydd Llywodraeth y DU yn 'ddraconaidd' medd Mark Drakeford
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi galw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyfreithiau streicio newydd yn "ddraconaidd."
Fe wnaeth llywodraeth Rishi Sunak gyhoeddi'r wythnos ddiwethaf y bydd deddfwriaeth newydd i sicrhau "lefel isafswm o wasanaethau" yn ystod gweithredu ddiwydiannol yn cael ei gyflwyno i ASau yn San Steffan "yn yr wythnosau nesaf."
Fe fydd y ddeddfwriaeth newydd yn golygu y bydd yn rhaid i weithwyr y gwasanaethau tân, ambiwlans a rheilffyrdd gynnal rhywfaint o'u gwasanaethau yn ystod cyfnodau o streicio.
Daw'r datblygiad wrth i weithwyr ar draws sawl sector barhau i streicio yn sgil anghydfodau dros dâl ac amodau gweithio.
Yn ôl Llywodraeth y DU, mae'n rhaid cydbwyso'r hawl i streicio gyda hawl y cyhoedd i "fyw a chynnal eu bywiolaeth," a bwriad y ddeddfwriaeth newydd fyddai cynnal "lefel sylfaenol" o weithredu a sicrhau diogelwch.
Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, fe wnaeth prif weinidog Cymru feirniadu'r penderfyniad i gyflwyno cyfreithiau, gan ddadlau y bydd yn ei gwneud hi'n "anoddach" i weithwyr streicio.
"Yn wahanol i lywodraeth y DU, nid yw Llywodraeth Llafur yng Nghymru yn credu y dylent ymateb i streiciau trwy gyflwyno cyfreithiau mor gyfyngol a hen ffasiwn.
"Cyfreithiau fydd, gyda llaw, yn tanseilio'r cytundeb datganoli.
"Rydym yn cydnabod ac yn parchu'r teimladau cryf sydd wedi'u harddangos trwy'r gweithredu ddiwydiannol. Rydym yn gwybod nad yw'n benderfyniad hawdd i fynd ar streic.
"Rydym yn parhau yn ymrwymedig i gadw cysylltiadau gyda'n hundebau llafur i ddarganfod ffordd i ddatrys yr anghydfodau presennol."