Newyddion S4C

Mab yn 'gwireddu breuddwyd' i Sophie Evans ac Ellis Jenkins

08/01/2023
Sophie Evans babi

Mae "breuddwyd wedi ei gwireddu" i Sophie Evans ac Ellis Jenkins yn dilyn genedigaeth ei mab.

Mae'r gantores sy'n aelod o'r grŵp Welsh of the West End wedi diolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon ati yn dilyn genedigaeth Jack.

Cafodd Jack David Jenkins ei eni 30 Rhagfyr yn pwyso wyth pwys.

Mewn neges ar Twitter, dywedodd Sophie: "Mae'n freuddwyd wedi ei gwireddu.  Mae bywyd newydd fynd gam yn uwch."

Mae Ellis Jenkins yn chwarae i Rygbi Caerdydd a Chymru ac mae'r ddau wedi dyweddïo â'i gilydd pan oedden nhw yn eu harddegau.

Llun: Sophie Evans/Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.