
Eleni'r 'cyfle gorau' i Wrecsam ennill y gynghrair
Eleni'r 'cyfle gorau' i Wrecsam ennill y gynghrair
Wrth i gyfnod prysur calendr pêl-droed y Nadolig ddod i derfyn, bydd cefnogwyr clybiau ar draws Cymru yn edrych yn ôl ar hanner cyntaf y tymor ac asesu lle mae eu clwb yn y gynghrair.
Ac wrth i gefnogwyr Wrecsam weld eu tîm yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol, byddant yn sicr yn gobeithio mai eleni fydd y flwyddyn pan fydd eu clwb yn codi i Adran Dau.
Notts County sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd, ond mae Wrecsam wedi chwarae un gêm yn llai ac ond dau bwynt tu ôl. Sydd yn golygu os ydynt yn ennill y gêm ychwanegol honno, fyddan nhw ar frig y gynghrair.
Siom oedd hanes tîm Phil Parkinson y llynedd wrth iddynt golli i Grimsby yn y gemau ail-gyfle, gan olygu y byddant yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol am flwyddyn arall.
Ond nid yw'r clwb wedi colli ar y Cae Ras eleni, ac maen nhw'n cael canlyniadau da oddi cartref hefyd.
'Dim cwyn o gwbl'
Mae un o gyn-chwaraewyr mwyaf adnabyddus Wrecsam, Waynne Phillips wedi bod yn sylwebu ar nifer o gemau'r clwb y tymor hwn.
Dywedodd ei bod yn wych gweld y clwb yn chwarae o safon mor uchel ac yn gwthio am ddyrchafiad.
"Mae o 'di bod yn wych ers y gêm gynta' yna nôl ym mis Awst. I feddwl sut ma' nhw 'di bod ar y Cae Ras, dydyn nhw heb golli gêm," meddai.
"Gen i ddim cwyn o gwbl bod nhw'n sefyll yn yr ail safle, fel 'da ni'n mynd mewn i adeg busnas o'r tymor fel ma' nhw'n deud, a dwi'n un sy'n edrych ymlaen am y tri, pedwar mis nesa'."

Llun: PA
Dros gyfnod trosglwyddo'r haf mae Wrecsam wedi dod â chwaraewyr o safon i mewn, sydd wedi bod o gymorth iddynt wrth herio am y safle cyntaf yn y gynghrair.
Elliot Lee, Mark Howard a Jordan Tunnicliffe ydy'r rhai ar restr o enwau sydd wedi ymuno dros yr haf.
"Dwi wedi bod yn gwylio Wrecsam am rei blynyddoedd wan, a mae o'n saff i ddweud mai dyma'r garfan cryfa' dwi 'di gweld yna," ychwanegodd.
"Dwi'n teimlo bod o'n garfan well 'na unrhyw tîm arall yn y gynghrair... ma'r dyfnder yn y garfan yn wych. Do's na'm rheswm i neb gada'l Wrecsam y tymor yma."
Buddugoliaeth hanesyddol
Bydd Wrecsam yn herio Coventry yng Nghwpan yr FA ddydd Sadwrn, gan roi cyfle iddynt gyrraedd y bedwaredd rownd a churo tîm sydd tri chynghrair yn uwch.
Roedd Waynne Phillips yn rhan o'r tîm wnaeth greu hanes yn 1992, pan gurodd Wrecsam un o dimau gorau Prydain ar y pryd, Arsenal.
Mae gan Phil Parkinson a'i garfan gyfle i greu hanes trwy gyrraedd y bedwaredd rownd, ac mae Waynne Phillips yn credu mai'r ffaith nad yw Wrecsam yn ffefrynnau yn mynd i fod o fantais iddynt.
"Geith nhw ymlacio, do's na'm pwysau ar Wrecsam am unwaith. Mae 'na bwysau arnyn nhw bron bob dydd Sadwrn i ennill gemau.
"Ond yn erbyn Coventry geith nhw fynd yna, a beth bynnag sy'n digwydd geith nhw mwynhau y diwrnod. Os ydyn nhw'n cyrraedd y pedwaredd rownd, grêt, os na, geith nhw canolbwyntio ar y dyrchafiad sydd mor pwysig i pawb."
Llun: CPD Wrecsam