Trên bach yr Wyddfa i deithio i'r copa am y tro cyntaf ers 2019
Bydd trên bach enwog yr Wyddfa yn teithio'r holl ffordd i gopa’r mynydd am y tro cyntaf ers 2019 eleni.
Cafodd gwaith cynnal a chadw hanfodol ei gwblhau ar ran uchaf y cledrau y llynedd wedi i Covid-19 atal y gwaith yn 2020.
Roedd modd i deithwyr gyrraedd Gorsaf Clogwyn, sydd tua thri chwarter y ffordd i fyny'r mynydd.
Mae Gwasanaeth Rheilffordd yr Wyddfa wedi cyhoeddi y bydd y trac yn ail-agor ar Mai 13.
TO THE SUMMIT OF SNOWDON 😃
— Snowdon Mountain Railway / Rheilffordd yr Wyddfa (@SnowdonMR) January 5, 2023
Our trains will be running to the summit and Hafod Eryri will be open again from the 13th of May (weather permitting).
During April-early May, trains will run 3/4 distance up #Snowdon to Clogwyn Station.
Book in advance at https://t.co/2qqgztfg9y pic.twitter.com/VOSa6wVyhR
Bydd Hafod Eryri, y caffi ar gopa’r Wyddfa hefyd yn ail-agor.
Mae’r caffi wedi bod ar gau oherwydd nad oedd ffordd i gludo staff yno.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ar wefannau cymdeithasol dywedodd un teithiwr ei fod yn “edrych ymlaen at daith ar y trên eto".