Gweithwyr Ambiwlans Cymru i gynnal dau ddiwrnod o streicio
Bydd gweithwyr ambiwlans Cymru sy'n aelodau o undeb Unite yn mynd ar streic unwaith eto mewn anghydfod dros gyflog a staffio.
Bydd aelodau’r undeb yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru yn streicio ar Ionawr 19 a 23 am 24 awr, ond yn parhau i ddarparu gwasnaethau ar gyfer digwyddiadau lle mae bywyd mewn perygl.
Dywedodd Unite, sy’n cynrychioli mwy na 1,000 o aelodau yn y gwasanaeth, fod 88% wedi pleidleisio i streicio dros gynnig cyflog sydd yn is na chwyddiant gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r llywodraeth yn dweud eu bod yn parchu penderfyniad aelodau'r undeb ac y byddan nhw'n gweithio ar gynlluniau wrth gefn.
Dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol Sharon Graham: “Bydd Unite yn sefyll 100% y tu ôl i’n haelodau Ambiwlans Cymru sy’n streicio i achub ein GIG.
“Maen nhw'n gweld eu hunain bob dydd sut mae'r GIG yn cwympo. Cynnydd cyflog teilwng yw’r unig ffordd o wella recriwtio’r GIG a lleddfu’r pwysau aruthrol ar wasanaethau ambiwlans.
“Efallai mai yn San Steffan y mae gwreiddiau’r anghydfod hwn, ond mae angen i Lywodraeth Cymru symud i wella eu cynnig cyflog os ydym am osgoi anghydfod hirfaith.
“Mae’r undeb hwn yn barod ar gyfer trafodaethau difrifol gyda llywodraethau ym mhob gwlad, gan gynnwys Cymru. Mae angen gweithredu ar frys nawr i fynd i’r afael ag argyfwng cyflogau a staffio’r GIG.”
'Mwy na thâl'
Ychwanegodd swyddog rhanbarthol Cymru Richard Munn: “Mae’r dicter sydd wedi arwain at y streic hon yn ymwneud â mwy na thâl yn unig. M ae'r staff wedi blino'n lân ac o dan straen, a'r cynnydd cyflog pitw oedd yr hoelen olaf i'r mwyafrif.
“Rydyn ni’n gwybod mai cyllid cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru ond mae Unite yn erfyn arnyn nhw i ddod at y bwrdd gyda chynnig cynyddol, fel yn Yr Alban.
“Mae Unite yn cydnabod bod yr argyfwng wedi codi oherwydd methiant bwriadol Llywodraeth San Steffan i ariannu codiad cyflog teilwng i’r GIG ar draws y DU.
“Er bod Llywodraeth y DU yn ymddangos yn anghofus i ddicter a rhwystredigaeth gweithwyr y GIG, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos eu bod yn deall y materion. Ond nawr mae angen iddyn nhw weithredu. ”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall ac yn parchu cryfder y teimladau ymysg aelodau Unite yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru sydd wedi arwain at y streic yma.
"Yn dilyn canlyniad y bleidlais, byddwn yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans a byrddau iechyd ar eu cynlluniau wrth gefn. Dylai'r cyhoedd fod yn sicr y bydd trefniadau'n cael eu gwneud gydag undebau i sicrhau y bydd lefel ddiogel o staffio bob amser, gyda gofal achub bywyd a chynnal bywyd yn cael ei ddarparu yn ystod unrhyw weithredu diwydiannol."