Newyddion S4C

Sean Morrison

Sean Morrison yn gadael Caerdydd ar ôl wyth mlynedd

NS4C 05/01/2023

Bydd Sean Morrison yn gadael Caerdydd ar ôl wyth mlynedd a hanner gyda'r clwb.

Chwaraeodd 295 o gemau i'r Adar Gleision, a sgorio 33 o goliau gan gynnwys peniad i guro Abertawe yng Ngêm derbi De Cymru.

Mae wedi chwarae i'r clwb ers 2014, a gafodd ei wneud yn gapten yn 2015.

Fe wnaeth yr amddiffynnwr arwain y clwb i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2017, yr eildro iddynt chwarae yng nghynghrair uchaf Lloegr.

'Dylanwad allweddol'

Yn dilyn tri thymor o chwarae'n gyson i Gaerdydd, roedd anafiadau yn golygu nad oedd yn chwarae gymaint o funudau o 2022 ymlaen.

Torrodd Morrison ei goes ym mis Chwefror 2022, ac ond wedi chwarae llond llaw o gemau ers hynny.

Dywedodd hyfforddwr CPD Dinas Caerdydd, Mark Hudson bod Morrison wedi bod yn allweddol i'r clwb dros ei gyfnod yno.

"Mae effaith Sean yn ystod ei gyfnod gyda Chaerdydd wedi bod yn enfawr. Mae wedi cael dylanwad allweddol yn y clwb 'ma, arweinydd go iawn ar ac oddi ar y cae," meddai.

"Fe wnaeth greu awyrgylch anhygoel yma, ac yn groesawgar i'r holl staff a chwaraewyr."

Bydd Morrison yn gadael y clwb ym mis Ionawr, gan chwilio am glwb newydd i ymuno.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.