Y Scarlets i ymchwilio i honiadau fod cefnither 13 oed Ross Moriarty wedi ei cham-drin ar lafar
Mae’r Scarlets i ymchwilio i honiadau fod cefnither 13 oed Ross Moriarty wedi ei cham-drin ar lafar yn ystod eu gornest Dydd Calan gyda’r Dreigiau.
Datgelodd y chwaraewr rheng ôl dros Gymru ar Instagram fod ei gefnither wedi’i thargedu gan rai o’r cefnogwyr cartref wedi i Sione Kalamafoni gael ei anfon o’r cae.
“Does dim ots gen i’r cam-drin rwy’n ei gael ar-lein nac ar y cae rygbi gan gefnogwyr, ond rydw i wedi cael gwybod bod fy nghefnither bach sy’n 13 oed wedi cael dynion yn sgrechian yn ei hwyneb am iddi ofyn iddyn nhw roi’r gorau i fy ngham-drin i’n eiriol ar y penwythnos,” meddai.
“Mae honno’n linell rydw i wir yn gobeithio na ddylai pobl feddwl sy’n iawn i’w chroesi.”
‘Siom’
Mewn ymateb, mae’r Scarlets wedi annog teulu’r ferch i gysylltu er mwyn iddyn nhw allu ymchwilio i'r hyn ddigwyddodd.
“Rydym wedi siomi i ddarllen am y digwyddiad yn ystod y gêm ar Ddydd Calan yn erbyn y Dreigiau sy’n cynnwys cefnder Ross Moriarty," medden nhw.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n sefydliadau cefnogwyr Crys16 a Grwp Cefnogwyr y Scarlets i greu amgylchedd sy’n croesawu teuluoedd i gefnogwyr Scarlets ac ein gwrthwynebwyr ym Mharc y Scarlets ac mae clywed am ferch ifanc yn cael ei cham-drin ar lafar gan gefnogwr yn gwbl annerbyniol.
“Mae gennym ni bolisi dim goddefgarwch i gam-drin o unrhyw natur yn ein stadiwm ac yn annog cefnogwyr i riportio digwyddiadau o’r fath i’r clwb. Os hoffai’r teulu gysylltu â ni byddwn yn ymchwilio i hyn ymhellach.”