Bangor yn ethol y Maer anneuaidd ‘cyntaf ac ieuengaf’ erioed

Bangor yn ethol y Maer anneuaidd ‘cyntaf ac ieuengaf’ erioed
Yn 23 mlwydd oed, Owen Hurcum yw’r maer ieuengaf yn hanes Cymru - a’r maer anneuaidd (non-binary) cyntaf ar unrhyw ddinas.
Dywedodd Owen eu bod yn falch bod eu hetholiad gan Gyngor Dinas Bangor i’r swydd wedi “taro nodyn gyda gymaint o bobl”.
Mae Owen yn defnyddio’r rhagenwau ‘eu’ a ‘nhw’ ac yn agender.
“‘Dw i’n credu bod gwleidyddiaeth yng Nghymru yn dod yn fwy amrywiol,” dywedodd y maer, “ac eto ‘dw i’n credu bod dal ganddo ffordd i fynd o ran cynrychiolaeth ar y lefel uchaf.”
Ar Twitter, dywedodd yr ymgeisydd annibynnol: “Pan des i allan ddwy flynedd yn ôl, roeddwn i’n poeni gymaint fy mod i am gael fy niarddel gan fy nghymuned neu’n waeth.
“Heddiw cefais fy ethol gan fy nghymuned fel maer ein dinas wych ni. Y maer ifancaf erioed yng Nghymru. Y maer anneuaidd agored cyntaf ar unrhyw ddinas, yn unman.”
Sbardunodd eu neges ymateb gefnogol i’w apwyntiad.
Dywedodd y maer: “Rydw i eisiau dweud diolch enfawr am yr holl negeseuon hyfryd sydd yn dal i ddod mewn".