Newyddion S4C

'Llawer o law, ychydig iawn o eira': Dechrau anodd i'r tymor sgïo yn Ewrop

03/01/2023
eira alps

Mae 'llawer o law ac ychydig iawn o eira' wedi golygu ei bod hi'n ddechrau anodd i nifer o ganolfannau sgïo ar y cyfandir yn Ewrop. 

Mae papur newydd Le Monde yn Ffrainc yn adrodd fod y 'flanced wen o eira wedi toddi' gyda glaw yn dod yn ei lle yn rhanbarth le Massif Central, sydd yn gartref i nifer o gyrchfannau sgïo.

Mae'r Swistir hefyd wedi bod yn cael trafferthion, gyda chyrchfannau yn agor eu llwybrau beicio haf yn hytrach na chynnig gweithgareddau chwaraeon gaeaf.

Er y diffyg eira, mae un cyrchfan ar Mont Blanc yn Ffrainc wedi dweud nad oes yna lawer o bobl wedi canslo eu gwyliau, gan fod "pobl yn dod hefyd ar gyfer cael profiad yn y mynyddoedd."

Ond yn ôl rhai adroddiadau ym mhapur Le Monde, dim ond hanner o gyrchfannau sgïo yn Ffrainc sydd wedi gallu agor yn ystod gwyliau'r Nadolig, gyda'r mwyafrif ohonynt yn rhanbarth y Jura wedi cau yn gyfan gwbl. 

"Sefyllfa sydd yn dangos cyflymder newid hinsawdd, gyda thymhorau yn lleihau a mwy o ansefydlogrwydd o ran y tywydd," meddai'r papur newydd. 

Llun: Zoe Calvert

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.