Rhybudd melyn am law i ran helaeth o'r wlad nos Fawrth
03/01/2023
Bydd rhybudd melyn am law mewn grym i ran helaeth o Gymru o 19:00 nos Fawrth.
Mae perygl y gallai cartrefi a busnesau brofi llifogydd yn sgil glaw trwm. A gallai'r glaw effeithio ar gyflwr y ffyrdd, a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Abertawe
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerdydd
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Benfro
- Sir Fynwy
- Sir Gâr
- Torfaen