Wcráin yn dioddef rhagor o ymosodiadau ar ddechrau blwyddyn newydd
Roedd yn rhaid i drigolion mewn dinasoedd ar draws Wcráin ohirio eu dathliadau blwyddyn newydd ar ôl i seirenau rhybudd bomio gael eu clywed nos Sadwrn.
Yn y brifddinas Kyiv, roedd adroddiadau am ffrwydradau wrth i ymosodiad milwrol Rwsia ar y wlad barhau.
Daw hyn wedi i bennaeth NATO, Jens Stoltenberg, ddweud fod cynghreiriaid yn y gorllewin angen cyflymu'r broses o gynhyrchu arfau er mwyn sicrhau fod Wcráin yn parhau i gallu ymladd yn erbyn Rwsia.
"Mae’n ofyniad sylfaenol ar NATO i sicrhau bod gennym ni'r arfau yn eu lle i'n hamddiffyn, ond hefyd i allu parhau i ddarparu cefnogaeth i Wcráin yn y tymor hir," meddai.
Dywedodd hefyd tra fod Wcráin wedi profi llwyddiant yn ddiweddar, fod yna "arwyddion fod Rwsia yn barod i ymladd yn ôl o'r newydd."
Ychydig cyn y rhybuddion bomiau, roedd yr Arlywydd Volodomyr Zelensky wedi annerch pobl y wlad ar drothwy'r flwyddyn newydd.
'Fe wnaeth 2022 daro ein calonnau", meddai.
"Fe wnaethom wylo ein holl ddagrau. Gwaeddom ein holl weddïau...Ni wyddom beth ddaw yn 2023 ond rwyf am ddymuno un peth i ni gyd - buddugoliaeth.
"Gadewch i'r flwyddyn yma fod yn flwyddyn o ddychwelyd. Dychwelyd ein pobl. Milwyr i'w teuluoedd. Carcharorion - i'w cartrefi. Ffoaduriaid - i Wcráin. A dychwelyd ein tiroedd i ni."
Вистояти – це не впасти!
— Віталій Кличко (@Vitaliy_Klychko) December 31, 2022
⁰Я бажаю всім стійкості і добра. А воно завжди перемагає! І 2023 буде роком Перемоги України!
З Новим роком та Різдвом Христовим! pic.twitter.com/SSjvakYgJv
Ychwanegodd ei fod yn dymuno gweld bywyd normal yn dychwelyd eleni, ac i eiliadau hapus heb gyrffiw.
"Boed i'r flwyddyn newydd ddod a hyn oll. Rydym yn barod i ymladd drosto."
Un arall i annerch ei bobl oedd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin.
Dywedodd yntau fod 2022 wedi bod yn flwyddyn anodd oedd yn llawn penderfyniadau anodd ond angenrheidiol.