Dathliadau ar draws y byd wrth groesawu blwyddyn newydd
Mae dathliadau wedi cael eu cynnal ar draws y byd wrth i bobl ddathlu'r flwyddyn newydd ddydd Sadwrn.
I nifer o wledydd, gan gynnwys yng Nghymru, dyma oedd y Nos Galan gyntaf lle yr oedd dathliadau'n cael eu cynnal heb unrhyw gyfyngiadau ers cyn pandemig Covid-19.
Fe wnaeth Maer Llundain, Sadiq Khan, ganmol y sioe tân gwyllt yn ninas Llundain, gan ddymuno blwyddyn newydd dda i bawb yno yn ogystal ag ar draws y byd.
Roedd mwy na 100,000 o bobl yng nghanol Llundain er mwyn gwylio 12,000 o dân gwyllt unigol yn cael eu saethu i'r awyr.
Cafodd dathliadau'r flwyddyn newydd eu cynnal hefyd yng Nghaerdydd yn ogystal ag yng Nghaeredin a Belfast.
Er gwaethaf rhybuddion gan y Swyddfa Dywydd i dde Cymru ar gyfer nos Calan, fe wnaeth pobl barhau i fynd allan er mwyn ymuno yn y dathliadau.
What an incredible show. #HappyNewYear to London and everyone around the world. #LoveLondon pic.twitter.com/2x9rlBku4m
— Mayor of London, Sadiq Khan (@MayorofLondon) January 1, 2023
Ynys Kiribati yn y Môr Tawel oedd y wlad gyntaf i groesawu 2023 gydag Auckland yn Seland Newydd yn dilyn awr yn ddiweddarach.
Roedd arddangosfeydd o dân gwyllt anhygoel i'w gweld mewn dinasoedd ar hyd a lled Awstralia, a oedd hefyd yn un o'r gwledydd cyntaf, gyda mwy na miliwn o bobl yn nghanol dinas Sydney.
Fe wnaeth rhai milwyr benderfynu aros yn y ffosydd yn Wcráin gydag eraill yn dychwelyd i ddinas Kyiv er mwyn treulio'r flwyddyn newydd gyda eu teulu a gobaith am flwyddyn newydd well i'r wlad.
Ynysoedd Baker a Holand, ger Unol Daleithiau America, fydd y llefydd olaf i weld y flwyddyn newydd am 12:00 GMT ar 1 Ionawr.