Banc bwyd yng Ngwynedd ‘erioed wedi gweld cyfnod mor brysur’

Banc bwyd yng Ngwynedd ‘erioed wedi gweld cyfnod mor brysur’
Mae banc bwyd ym Mangor yn dweud eu bod nhw erioed wedi gweld cyfnod mor brysur.
Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd Robert Jones, cynorthwyydd y banc bwyd, fod yr wythnosau diwethaf wedi bod yn rhai prysur iawn.
“Mae’r gwirfoddolwyr yn gwneud gwaith anhygoel, maen nhw yma bob diwrnod,” meddai.
“Wythnos diwethaf oedd yr wythnos fwyaf prysur mae’r banc bwyd erioed wedi cael, ac mae’r banc bwyd wedi bod yma ers dros deg mlynedd.”
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydweithio gyda’r banc bwyd ac yn canolbwyntio ar sicrhau fod gan bawb ddigon o nwyddau hylendid a bwyd.
Mewn stafell fach tu ôl i Gadeirlan Bangor mae yna fyddin o wirfoddolwyr yn creu pecynnau i drigolion ardal Bangor.
“Ar un lefel, ‘da ni’n falch iawn o beth ‘da ni’n neud, ond lefel arall mae’n anffodus ac yn drist iawn ac yn drist iawn bod ni’n dibynnu ar fanciau bwyd,” meddai Andrew John, Archesgob Cymru wrth Newyddion S4C.
“Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi trio gwneud ymdrech i sicrhau bod pobl yn gallu cael pethau normal, y pethau i ymolchi a phethau fel sanitary towels ac yn y blaen. Da’ ni’n falch iawn o ddarparu bwyd ond hefyd pecynnau o bethau arall hefyd. “
Yn y cyfnod cyn ac ar ôl y Nadolig mae'r niferoedd sy'n dibynnu ar y banc bwyd yma ym Mangor wedi dyblu.
Ac yn ôl un gwirfoddolwr mae pobl wir wedi “teimlo'r esgid yn gwasgu eleni felly ‘da ni’n ofnadwy o brysur.”