Arestio trydydd person wedi i ddyn gael ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham
Mae’r heddlu wedi arestio trydydd person mewn cysylltiad â marwolaeth dyn gafodd ei drywanu mewn clwb nos yn Birmingham.
Bu farw Cody Fisher ar ôl iddo gael ei drywanu yng nghlwb Crane yn y ddinas ychydig cyn 23:45 ar Ŵyl San Steffan.
Cyhoeddodd Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ddydd Mercher eu bod wedi arestio dyn 22 oed ychydig wedi hanner nos yng nghanol dinas Birmingham yn ogystal â dyn 21 oed a gafodd ei arestio yn Llundain fore Mercher.
Bellach, mae’r heddlu wedi arestio trydydd dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddio.
#BREAKING | We've arrested a third man on suspicion of the murder of Cody Fisher, who was stabbed to death at the Crane nightclub in Digbeth on Boxing Day.
— Birmingham Police (@BrumPolice) December 29, 2022
The suspect was held in London just before 3am today.
Seven people are now in custody.
More 👉 https://t.co/T7MumSXt2X pic.twitter.com/B1q8RPoPeS
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Ian Ingram eu bod nhw'n "gwneud cynnydd da yn ein ymholiadau ac mae gennym ni well syniad o beth ddigwyddodd.
"Mae teulu a ffrindiau Cody wedi eu llethu gan yr hyn ddigwyddodd, a byddwn yn parhau i weithio i roi atebion iddyn nhw."