Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ŵyl San Steffan

28/12/2022
Craig Walding

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn 37 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A469 rhwng Llanbradach ac Ystrad Mynach yn Sir Caerffili am 20:30 ar Ŵyl San Steffan. 

Roedd Craig Walding yn byw yn lleol, ac yn cerdded yn yr ardal pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Bu farw yn y fan a'r lle.  

Dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, brawd, ewythr a ffrind arbennig" 

"Ni allwn fynegi'r boen yr ydym yn ei theimlo ar hyn o bryd, ac rydym am ddiolch i bawb am eu cefnogaeth," meddai'r datganiad gan ei deulu.  

Cafodd dyn 33 oed o Sir Henffordd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae e bellach wedi ei ryddhau wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.