Newyddion S4C

2022-Y flwyddyn boethaf yn y DU

28/12/2022
Tymheredd uchel

2022 yw'r flwyddyn boethaf i'w chofnodi erioed yn y Deyrnas Unedig, yn ôl argraffiadau cyntaf y Swyddfa Dywydd.

Cafodd y tymheredd uchaf, sef 40.3 selsiws ei gofnodi yn Sir Lincoln yn nwyrain Lloegr ar 19 Gorffennaf.

Yn ystod y cyfnod poeth ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd ei rhybudd coch cyntaf erioed am wres eithafol.

Cafodd y tymheredd dyddiol uchaf erioed ei gofnodi yng Nghymru bryd hynny, sef 37.1 selsiws ym mhentref Penarlâg, Sir Y Fflint.

Mae'n ymddangos y bydd cyfartaledd y tymheredd yn y DU ar gyfer y flwyddyn gyfan yn curo'r record bresennol, sef 9.88 selsiws a gafodd ei gofnodi yn 2014.

Bydd yr union ffigwr yn cael ei gadarnhau yn y flwyddyn newydd.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, roedd y pedwar tymor eleni ymhlith y deg cynhesaf i'w cofnodi erioed yn y DU. 

Dywedodd Dr Mark McCarthy, pennaeth Canolfan Gwybodaeth Hinsawdd y Swyddfa Dywydd: "Er y bydd llawer yn cofio gwres eithafol yr haf, yr hyn sydd wedi bod yn nodedig eleni ydy'r gwres cyson drwy'r flwyddyn, gyda phob mis ac eithrio Rhagfyr yn gynhesach na'r cyfartaledd.

"Mae'r flwyddyn gynnes yn cydfynd â'r effeithiau gwirioneddol yr ydym yn eu disgwyl o ganlyniad i newid hinsawdd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.