Teyrnged i 'fam unigryw a thalentog' a fu farw ddydd Nadolig yn Abertawe
Cyhoeddodd yr heddlu mai Rachel Curtis a Jay Kyle Jenkins oedd y ddau a fu farw wedi i gar blymio i mewn i afon Tawe yng nghanol Abertawe yn ystod oriau mân ddydd Nadolig.
Roedd y ddau yn 36 oed, ac yn byw yn y ddinas.
Roedd Rachel Curtis yn gyrru'r car mini, a Jay Kyle Jenkins yn teithio yn y cerbyd.
Dywedodd teulu Ms Curtis ei bod hi'n berson "digri, galluog, unigryw a thalentog"
"Bydd colled enfawr ar ei hôl, ac mae'r golled fwyaf i'w mab 14 oed," meddai'r datganiad.
Roedd Rachel Curtis yn gweithio yn y maes harddwch ar safle Stadiwm Liberty.
Mae Heddlu De Cymru yn dal i apelio am wybodaeth, yn enwedig gan unrhyw un a welodd y car yn mynd i mewn i'r afon. Maen nhw'n awyddus i bobl gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2200429694.