Newyddion S4C

Rhybudd melyn am law i rannau o Gymru

28/12/2022
Glaw trwm

Mae rhybudd melyn am law mewn grym i rannau o Gymru ddydd Mercher.

Mae'n effeithio ar 14 o siroedd ar draws y wlad.

Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ers 02:00 ddydd Mercher a bydd yn parhau tan 15:00. 

Fe allai 40-60mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

Mae perygl y gallai cartrefi a busnesau brofi llifogydd, ac fe allai'r glaw trwm hefyd effeithio ar gyflwr y ffyrdd .

Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Abertawe
  • Blaenau Gwent
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Caerffili
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Penybont
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Fynwy
  • Sir Gaerfyrddin
  • Torfaen

Ac yn ôl y rhagolygon ar gyfer dathliadau'r flwyddyn newydd, mae'n debygol o fod yn wlyb Nos Galan. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.