China i ddechrau llacio rheolau Covid-19
27/12/2022
Bydd China yn dechrau llacio rheolau Covid-19 wedi tair blynedd o gyfyngiadau llym.
Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd swyddogion na fydd yn rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd y wlad hunan ynysu ar ôl cyrraedd o 8 Ionawr ymlaen.
Bydd hyn yn ailagor y wlad i bobl sydd â fisas ar gyfer gweithio neu astudio yn ogystal â phobl sydd yn ymweld â theulu.
Dywedodd swyddogion hefyd y byddai Covid-19 yn cael ei israddio i glefyd heintus Dosbarth B yn hytrach na Dosbarth A.
Cyhoeddodd y wlad ddydd Sul y byddai'n rhoi'r gorau i gyhoeddi rhifau achosion yn gyfan gwbl.