Gwyddonwyr o Gymru yn datblygu peiriant ail-rewi 'arloesol'

Gwyddonwyr o Gymru yn datblygu peiriant ail-rewi 'arloesol'
Mae gan wyddonwyr o Gymru nod uchelgeisiol i geisio ail-rewi rhannau o Begwn y Gogledd.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi dyfeisio peiriant arloesol sy'n cynhyrchu rhew gan ddefnyddio ynni gwyrdd, gall helpu'r frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang.
Wedi blynyddoedd o waith ymchwil, mae'r dechnoleg yn barod i gael ei phrofi yng ngogledd Canada.
Dywed Joshua Roberts, sy'n wirfoddolwr gyda chwmni Real Ice, bod y dechnoleg yn "arloesol".
“Be ‘da ni ‘di neud sydd yn arloesol ydy creu peiriant sydd lot yn llai ‘na unrhyw beth sydd wedi cael ei greu o’r blaen ac sydd felly yn medru cael ei ddefnyddio gan ddau berson. Mae hyn yn galluogi ni i roi’r peiriant i ddau Innuit ac maen nhw’n gallu penderfynu’r ardal gorau i sefydlu’r ddyfais," meddai.
“Dwi’n gobeithio bydd y prosiect yn gallu helpu gogledd Cymru i droi’n hwb ynni gwyrdd i ni neud gwir wahaniaeth i sefyllfa’r byd.
“‘Da ni’n gobeithio trwy greu ychydig bach o gyflogaeth bydd y nifer o bobl sy’n gadael gogledd Cymru i gael swydd yn lleihau.”
Llun: Real Ice