Newyddion S4C

Nifer y siopwyr ar Ŵyl San Steffan '50% yn uwch na'r llynedd'

26/12/2022
S4C

Mae nifer y siopwyr ar ddydd San Steffan 50% yn uwch na'r un diwrnod y llynedd, yn ôl ystadegau cychwynnol.

Roedd pryderon gan rai y byddai effeithiau'r argyfwng costau byw yn ogystal â streiciau trên yn effeithio ar y diwrnod siopa poblogaidd.

Yn ôl cwmni Springboard, sy'n un o ddadansoddwyr y diwydiant, hyd at 12:00 brynhawn dydd Llun roedd nifer y siopwyr yn uwch ymhob math allweddol o leoliadau siopa.

Roedd cynnydd o 59.4% ar y stryd fawr, 46.6% mewn canolfannau siopa, a 33.7% mewn parciau siopa.

Serch hynny, nid oedd nifer y siopwyr ddydd Llun wedi dychwelyd i'r un lefel ag yr oedd cyn y pandemig, gan barhau'n 30.5% yn is nag ar 26 Rhagfyr 2019.

Gogledd Iwerddon a welodd y cynnydd mwyaf, gyda nifer y siopwyr yno ar Ŵyl San Steffan yn fwy na phum gwaith y lefel a welwyd yn 2021.

Yr Alban a welodd y cynnydd lleiaf - 27.4% o gynnydd ers 2021 - gyda Springboard yn dweud fod y tywydd yno wedi bod yn "llawer llai dibynadwy".

Fis Rhagfyr y llynedd, roedd rheolau Covid yn parhau mewn grym yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae rhai yn meddwl y cafodd hyn effaith ar siopwyr bryd hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.