Newyddion S4C

Cartrefi yn Sir Fynwy heb ddŵr ar ddiwrnod Nadolig

25/12/2022
Dwr tap golchi dwylo

Mae rhai cartrefi yn Sir Fynwy wedi'u gadael heb gyflenwad dŵr ar ddiwrnod Nadolig. 

Dywedodd Dŵr Cymru fod yna broblemau gyda chyflenwadau lleol ym mhentref Tryleg. 

Yn ôl Dŵr Cymru, mae'r problemau wedi'u hachosi gan "gloeon aer" sydd wedi codi wrth i'r rhwydwaith pibelli cael ei ail-wasgeddu. 

Daw hyn wedi i nifer o gartrefi ar draws canolbarth a gorllewin Cymru ddioddef problemau gyda'u cyflenwadau dŵr dros y dyddiau diwethaf. 

Fe wnaeth Dŵr Cymru ymddiheuro i'r cartrefi sydd wedi'u heffeithio gan ddweud bod eu timau wedi bod yn gweithio trwy gydol y nos i geisio datrys y problemau.

Ychwanegodd Dŵr Cymru fod cyflenwad dŵr potel yn cael ei gludo i rai cwsmeriaid a bod cyflenwadau dŵr hefyd ar gael i'w casglu o'r Premier Inn ar Heol Portal yn Nhrefynwy. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.