Newyddion S4C

Dynes 26 oed wedi ei saethu'n farw a nifer wedi eu hanafu mewn tafarn ger Lerpwl

25/12/2022
Lighthouse.png

Mae ymchwiliad llofruddiaeth wedi’i lansio ar ôl i ddynes 26 oed farw a nifer o bobol gael eu hanafu mewn digwyddiad saethu ger Lerpwl.

Dywedodd Heddlu Glannau Mersi fod swyddogion wedi’u galw i’r Lighthouse Inn yn Wallasey Village, Wallasey tua 23:50 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau fod gwn wedi ei saethu.

Aethpwyd â dynes 26 oed i’r ysbyty gydag anaf ond bu farw’n ddiweddarach, meddai’r heddlu.

Roedd wedi ei saethu yn ei phen tra'r oedd hi yn y dafarn gyda'i chwaer, ond nid yw'r heddlu'n credu ei bod wedi ei thargedu'n benodol.

Cafodd pedwar dyn hefyd eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau saethu ac mae un dyn 28 oed o Beechwood mewn cyflwr critigol yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd David McCaughrean: “Mae’r ymchwiliad hwn yn un cynnar iawn ac rydym yn deall bod hwn yn ddigwyddiad gwirioneddol ysgytwol a dinistriol sydd wedi digwydd ychydig cyn Dydd Nadolig mewn lleoliad prysur yn llawn pobl ifanc.

“Mae gennym ni nifer o swyddogion yn Wallasey Village sy’n cynnal ymholiadau helaeth i ddeall yn union beth sydd wedi digwydd a gweithredu ar unwaith.

“Mae dynes wedi colli ei bywyd yn drasig dros y Nadolig tra bod nifer o bobl yn cael eu trin yn yr ysbyty ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda theulu’r dioddefwr.

“Hoffwn ofyn i unrhyw un a oedd yn nhafarn y Lightouse Inn neithiwr a welodd y digwyddiad neu sydd â lluniau ar ffonau symudol neu deledu cylch cyfyng o’r hyn a ddigwyddodd i gysylltu â ni fel mater o frys oherwydd efallai bod ganddynt wybodaeth sy’n hanfodol i’n hymchwiliad.

“Credwn fod y gwn wedi ei gludo o faes parcio’r dafarn mewn cerbyd lliw tywyll – Mercedes lliw tywyll o bosib yn fuan ar ôl y saethu ac rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd hwn i gysylltu â ni ar unwaith.”

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth anfon neges uniongyrchol at @MerPolCC neu gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 gan ddyfynnu cyfeirnod 1044 dydd Sadwrn 24 Rhagfyr.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.