Newyddion S4C

Neges Nadolig gyntaf ar y cyd gan Archesgobion Anglicanaidd a Chatholig Cymru

25/12/2022

Neges Nadolig gyntaf ar y cyd gan Archesgobion Anglicanaidd a Chatholig Cymru

Am y tro cyntaf erioed mae Archesgob Cymru wedi cyhoeddi neges Nadolig yr Eglwys yng Nghymru ar y cyd gyda'r Eglwys Gatholig. 

Mae Andy John, Archesgob Anglicanaidd Cymru wedi uno gyda Mark O’Toole, Archesgob Caerdydd ac Esgob Menevia i gynnig gwahoddiad i’r eglwys y Nadolig hwn, gan ddweud er gwaethaf “anhawster ac anobaith” eleni, “bu fflachiadau o oleuni yn y tywyllwch”.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd y Parchedicaf Andy John ei fod yn gobeithio gweld cyfeillgarwch a haelioni wrth i 2023 agosáu.

"Dwi'n gobeithio fyddwn ni'n gweld mwy o gyfeillgarwch, lle bod e'n naturiol i fod yn hael ac yn gofalu dros ein cymdogion.

"Os i ni'n gallu efelychu pethau sydd yn sylfaenol i ni yn yr eglwys, 'wi'n credu mi fydd Cymru yn dod yn rhyw fath o wlad lle ;da ni gyd yn gallu bod yn falch o'n gwlad ni."

Eleni, mae neges y ddau archesgob yn dechrau gyda stori ysgrifennu carol adnabyddus Dawel Nos, gan annog pobl i gofio y gall digwyddiadau sy’n dechrau’n “gythryblus” neu “mewn braw” weithiau ddod i ben gydag “alaw heddwch”. 

Daw eu datganiad i ben drwy ddweud: “Weithiau gall gwir neges y Nadolig gael ei hanghofio yn y cyfnod cyn 25 Rhagfyr gyda holl brysurdeb paratoadau, coginio, siopa a lapio anrhegion. Pam na ddewch i’r Eglwys y Nadolig hwn i roi Tywysog Heddwch yn y canol unwaith eto?”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.