
Radio ysbyty yn gysur i gleifion dros gyfnod yr Ŵyl
Radio ysbyty yn gysur i gleifion dros gyfnod yr Ŵyl
Mae Radio Ysbyty Gwynedd am fod yn cynnig cwmni i gleifion y Nadolig hwn.
Bydd Wynne Roberts, sydd yn gaplan yn yr ysbyty, a'r actor Mici Plwm, yn cyd-gyflwyno rhaglen arbennig ar fore Nadolig.
Y gobaith yw y bydd y rhaglen a fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar 25 Rhagfyr yn cynnig cysur i unrhyw gleifion sydd yn teimlo'n unig tra'u bod nhw'n treulio amser ar y wardiau.
Dywedodd Wynne wrth Newyddion S4C: "Dwi'n meddwl bod o'n bwysig ofnadwy dros gyfnod y Nadolig, fel rhywun sydd ar un llaw yn gweithio efo cleifion fel caplan ag yma hefyd yn cyflwyno ar y radio, dwi'n gwbod pa mor bwysig ydy o achos pan bo rhywun i mewn yn 'sbyty yn ystod y Nadolig ma' nhw'n ynysig, ma' nhw'n teimlo'n unig.
"Dwi'n meddwl bod Radio Ysbyty Gwynedd, clywed ella llais rhywun ma' nhw'n 'nabod, toes na'm byd yn rhoi bendith mwy i rywun na pan ma' rhywun yn deud diolch am y teimlada' 'dach chi 'di 'neud 'yn 'Nolig i."

'Ffisig'
Yn ôl Mici Plwm, a fydd yn cyd-gyflwyno ar Ddydd Nadolig, mae'n teimlo'n lwcus iawn i fod yn rhan o'r darlledu ar y diwrnod mawr.
"Pan aeth y cais o gwmpas yn holi o's 'na rywun o'r cyflwynwyr isho neu'n barod i ddod i mewn ar ddiwrnod 'Dolig, o'dd pob llaw yn codi 'Fi, fi, fi, fi, fi' - pawb isho," meddai.
"A pan ges i wbod bo fi'n cael cyd-gyflwyno efo Wynne sydd yn Gaplan yma hefyd, o'dd y ddau ohona ni wrth ein bodda' felly.
"Dwi 'di cael y profiad o fod yn glaf mewn ysbyty ac o'dd hi'n Ddolig felly dwi'n gwbod mae o yn ffisig, ffisig ydy bob un rhaglen, bob un cyflwynydd fel meddyg yn rhoi ffisig a hwnnw'n ffisig maen nhw'n gwrando arno fo yn hytrach na gorod 'i gymryd o."
Mae'r ddau yn gobeithio y bydd eu cwmnïaeth yn golygu bod cleifion Ysbyty Gwynedd yn llwyddo i gael blas o ysbryd yr ŵyl.