'Moment balch' i ennill Pencampwriaeth Syrffio'r Byd yn Los Angeles
'Moment balch' i ennill Pencampwriaeth Syrffio'r Byd yn Los Angeles
Mae'r Cymro cyntaf i ennill cystadleuaeth syrffio wedi dweud ei fod yn "foment balch".
Enillodd Llywelyn 'Sponge' Williams o Abersoch Bencampwriaeth Syrffio Para'r Byd yn Los Angeles ddydd Llun.
Mae Llywelyn wedi bod yn para-syrffio ers 2016, ac mae'n dweud mai dyma yw'r foment fwyaf balch yn ei yrfa hyd yn hyn.
"Mae wedi cymryd chwech blwyddyn i ga'l y teitl yma, dwi wedi cystadlu mewn 30 o competitions, a peidio mynd pellach na'r podiwm ond teirgwaith," meddai.
"O'dd ennill yn nyts, a wedyn ca'l y seremoni efo fflag Cymru ar y world stage a chwarae Hen Wlad Fy Nhadau, o'dd o'n proud moment."
Bu bron i Llywelyn ennill y gystadleuaeth y llynedd, ond collodd allan ar y fedal gyda thair munud i fynd.
Ond mae'r gystadleuaeth honno tu ôl iddo bellach, ac ar ôl siarad gyda chyn-syrffiwr arall o Gymru, roedd yn benderfynol o ennill eleni.
"O'n i'n Ffrainc mewn cystadleuaeth arall tua dau neu dri mis yn ôl ag o'n i'n aros efo Carwyn Williams, o'dd o bron iawn yn European Champion tan gafodd o ddamwain 'nôl yn yr 80's.
"O'n i'n siarad efo fo cyn mynd i fewn, a o'n i ddim yn mynnd i adael hwn fynd tro 'ma, o'n i ddim yn gwitchad blwyddyn arall efo'r teimlad o fi golli fo blwyddyn diwethaf."
'Disgyn mewn cariad'
Roedd Llywelyn eisiau syrffio ers y tro cyntaf iddo gamu mewn dŵr, ac ymunodd gyda chlwb syrffio pan oedd yn 11 oed.
Cafodd ddamwain pan oedd yn 16 ac fe gollodd ei goes, ond mae wedi parhau i syrffio ers hynny ac nawr wedi cyrraedd y brig yn y gamp.
"Neshi ddechra' syrffio efo youth club pan o'n i'n tua 12, 13 oed, a disgyn mewn cariad efo fo'n syth," meddai.
"O'dd fi a tri o'm ffrindiau o adra' yn mynd syrffio bob tro oeddan ni'n gallu, ar ôl ysgol, cyn ysgol.
"A dwi'n meddwl nath syrffio cal fi drw' be neshi fynd drw' yn ysbyty."