Ofgem yn codi'r cap ar brisiau ynni ymhellach
Mae'r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi codi'r cap ar brisiau ynni eto i £4,279 y flwyddyn o fis Ionawr.
Ond mae disgwyl y bydd aelwydydd wedi eu gwarchod rhag y newid wrth i gymorth ariannol gan y llywodraeth barhau.
Mae'r Canghellor Jeremy Hunt wedi dweud y bydd Gwarant Prisiau Ynni'r llywodraeth yn parhau fel y mae tan ddiwedd mis Mawrth.
Ar hyn o bryd, mae'r Warant yn golygu bod unrhyw aelwyd gyfartalog ond yn gorfod talu £2,500 y flwyddyn.
O ddechrau mis Ebrill, bydd hyn yn codi i £3,000 ar gyfer aelwyd gyfartalog, gyda'r gefnogaeth ariannol yn parhau os yw'r biliau yn uwch na hynny.
Pwrpas y cap ar brisiau ynni ydy cyfyngu'r bil cyfartalog mae aelwydydd yn gorfod talu bob blwyddyn.
Mae hi dal yn bosib i aelwydydd orfod talu mwy na'r cap os ydy'r aelwyd yn defnyddio mwy o ynni na'r aelwyd gyfartalog.
Mae'r cap ar brisiau ynni wedi bodoli ers 2019 ac yn ystod y misoedd diwethaf roedd yn £3,549.