Newyddion S4C

Disgwyl codi cyfyngiadau ar fynd â hylif ar awyren erbyn 2024

The Times 24/11/2022
maes awyr

Fe allai'r cyfyngiadau ar fynd â hylif drwy ardal ddiogelwch maes awyr gael eu codi yn 2024.

Mae'r rheolau ar hyn o bryd yn golygu bod yn rhaid i deithwyr dynnu gliniaduron o'u bagiau llaw, ac maen nhw ond yn gallu mynd â llai na 100ml o hylif gyda nhw ar yr awyren.

Mae'r prif feysydd awyr yn y Deyrnas Unedig wedi cael gwybod bod ganddyn nhw derfyn o ganol 2024 i gyflwyno mwy o beiriannau diogelwch CT, fel sy'n cael eu defnyddio mewn ysbytai, er mwyn i'r rheolau gael eu llacio.

Y gobaith yw y bydd hyn yn lleihau oedi wrth i bobl fynd drwy'r ardal ddiogelwch mewn meysydd awyr.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.