Newyddion S4C

Cynnal arddangosfa i herio ystrydebau am bobl sydd ag anableddau dysgu

24/11/2022

Cynnal arddangosfa i herio ystrydebau am bobl sydd ag anableddau dysgu

Bydd arddangosfa yn cael ei chynnal yn y Senedd ddydd Iau a fydd yn rhannu straeon pobl sydd ag anableddau dysgu drwy luniau a fideos. 

Bydd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn lansio 'Through Our Eyes' ddydd Iau a fydd yn parhau tan fis Chwefror, ac yn herio ystrydebau gan amlygu'r rhannau hollbwysig sydd gan bobl ag anableddau dysgu yn eu cymunedau.

Mae'r arddangosfa yn cynrychioli pobl sydd ag anableddau dysgu drwy eu geiriau eu hunain a sut y maen nhw'n gweld eu hunain. 

Dywedodd Prif Weithredwr 'Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan', Joe Powell, fod "pobl eraill am yn rhy hir wedi gallu bod yn berchen ar y naratif ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu".

"Os ydi pobl eraill yn berchen ar ein naratif, yna rydym ni'n newid i'r hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud ydym ni.

"Roedd ein haelodau ni eisiau newid hyn, gan bortreadu anableddau dysgu 'drwy ein llygaid ni'."

Mae'r prosiect wedi cynnwys dros 40 o sesiynau lluniau gyda dros 250 o unigolion ar draws Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.