Newyddion S4C

Cyhoeddi rhagor o streiciau gan yrwyr trenau ym mis Rhagfyr a Ionawr

22/11/2022
Streiciau / Trafnidiaeth Cymru

Bydd gyrwyr trenau yn mynd ar ragor o streiciau ym mis Rhagfyr ac Ionawr. 

Mae Undeb yr RMT wedi cyhoeddi y byddant yn mynd ar streic am gyfnod o 48 awr ar y tro yn ystod Rhagfyr a Ionawr wedi i benaethiaid y diwydiant fethu â chynnig  cytundeb newydd. 

Bydd dros 40,000 o aelodau ar hyd y rhwydwaith yn streicio, gan olygu y bydd 14 o gwmnïau trên yn mynd ar streic ar 13, 14, 15, 15 a 17 Rhagfyr yn ogystal â 3, 4, 6 a 7 Ionawr. 

Bydd gweithwyr hefyd yn gwrthod gweithio oriau gor-amser rhwng 18 Rhagfyr tan 2 Ionawr. 

Mae'r undeb hefyd yn honni ei bod hi'n "glir fod y llywodraeth yn amharu yn uniongyrchol ar ein hymdrechion i gyrraedd cytundeb.

"Fe wnaeth yr undeb ohirio streiciau blaenorol er mwyn galluogi trafodaethau er mwyn ceisio datrys y broblem, ond nid yw Network Rail wedi gwneud cynnig gwell ar swyddi, tâl ac amodau ar gyfer ein haelodau yn ystod y pythefnos diwethaf o drafodaethau." 

Mae Llywodraeth San Steffan wedi beirniadu'r cyhoeddiad diweddaraf, gan ddweud y bydd y gweithredu yn atal pobl gyffredin rhag mynd i'r gwaith, cyrraedd apwyntiadau mewn ysbytai ag atal plant rhag mynd i'r ysgol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.