Gwahardd gwerthu alcohol yn stadiymau Cwpan y Byd

18/11/2022

Gwahardd gwerthu alcohol yn stadiymau Cwpan y Byd

Mae FIFA wedi cyhoeddi na fydd alcohol ar gael mewn stadiymau yn Qatar yn ystod Cwpan y Byd.

Daw'r tro pedol ychydig yn llai na 48 awr cyn y gêm agoriadol rhwng Qatar ac Ecwador.

Roedd y corff llywodraethu pêl-droed wedi dod dan bwysau gan awdurdodau Qatar i wahardd alcohol, ac fe ddaeth cadarnhad o'r penderfyniad ddydd Gwener.

Ni fydd modd i gefnogwyr brynu cwrw o fewn yr wyth stadiwm sydd yn cynnal gemau'r bencampwriaeth, ond fe fydd cwrw ar gael ym mharciau'r cefnogwyr sydd wedi eu sefydlu yn y wlad. 

Yn ôl adroddiadau, roedd y pwysau ar FIFA i wahardd alcohol mewn stadiymau wedi dod yn uniongyrchol o deulu brenhinol Qatar. 

Mae gwerthu alcohol yn Qatar, sydd yn wlad sych, wedi bod yn bwnc llosg yn yr wythnosau cyn y twrnamaint. 

Fe allai'r datblygiad achosi cur pen i fwrdd llywodraethu FIFA ac i un o brif noddwyr y gystadleuaeth, Budweiser. Os na fydd modd i Budweiser werthu cwrw yn y stadiymau, fe fydd FIFA yn torri cytundeb gwerth miliynau o bunnau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.