Albanwyr yn fwy cefnogol o Gymru na Lloegr yng Nghwpan y Byd 2022
Gyda'r gemau cyntaf Nghwpan y Byd 2022 ar fin cychwyn ddydd Llun, mae canlyniadau arolwg newydd gan YouGov a gynhaliwyd yn yr Alban yn datgelu bod chwarter y boblogaeth yno (26%) eisiau i Loegr wneud yn wael yn y gystadleuaeth.
Ymhlith yr Albanwyr hynny sydd â diddordeb mewn pêl-droed, mae’r nifer sydd am i Loegr berfformio’n wael yn dringo’n uwch fyth, i 37%.
Mae llawer mwy o ewyllys da i dîm Cymru yn yr Alban, yn ôl canlyniadau'r arolwg. Er bod tua'r un faint o Albanwyr yn dweud y byddant yn cefnogi Cymru (8%) a Lloegr, mae 40% yn dweud eu bod am iddynt wneud yn dda, er na fyddant yn eu cefnogi’n benodol. Mae'r ffigurau hyn yn codi i 15% a 47% yn y drefn honno ymhlith cefnogwyr pêl-droed.
Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i’r Saeson, prin fod unrhyw Albanwr yn dymuno’n sâl i dîm Cymru (2%), gyda’r nifer hwn yr un fath i raddau helaeth ymhlith cefnogwyr pêl-droed (4%).
Roedd tua phedwar o bob 10 Albanwr heb ddiddordeb yn nhynged y ddau dîm, gyda 39% yn dweud nad oes ots ganddyn nhw pa mor dda neu wael y mae Lloegr yn ei wneud, a 42% yn dweud yr un peth am Gymru.