Cegin cymunedol yn 'cynnig bwyd maethlon beth bynnag eich cefndir ariannol'
Mae Cegin Hedydd yn gegin gymunedol a chantîn yng Nghaerfyrddin sydd yn darparu bwyd maethlon i unrhyw un, gyda phobl yn talu "beth y maen nhw'n gallu eu ffordio".
Cafodd y caffi ei sefydlu ym mis Hydref ac ar hyn o bryd, mae ar agor am ddwy awr bob dydd Sadwrn ond mae posibilrwydd y bydd yr oriau yn ehangu wrth iddynt asesu'r angen yn y gymuned.
Mae hyn yn golygu fod cwsmeriaid yn cael yr opsiwn i dalu'r pris sy'n cael ei awgrymu, gyda'r opsiwn yn cael ei roi i gyfrannu mwy a thalu am bryd rhywun arall os yn bosibl.
Os nad oes modd i'r cwsmer dalu'r pris sy'n cael ei awgrymu, maent yn gallu tynnu taleb oddi ar y wal yn y caffi a'i roi i'r gweithiwr yn y caffi, a bydd y pryd cyfan am ddim.
Mae cyfraniadau yn cynnwys arian yn ogystal â chynnyrch bwyd ac mae cynnyrch lleol yn greiddiol i'r gegin ar gyfer darparu prydau i'r gymuned.
'Talu yn ôl eu gallu'
Un o ffrindiau'r fenter ydy Llinos Roberts , sydd hefyd yn tyfu llysiau yn ei gardd ar gyfer eu coginio yn y gegin.
Dywedodd Llinos mai'r rheswm tu ôl i sefydlu'r caffi oedd fod Deri Reed, y sylfaenydd, wedi gweld "y bwlch yma o fewn y gymuned ac yn gweld bod 'na le i allu cynnig bwyd maethlon o safon i bawb, does ots beth ydi eich cefndir ariannol chi".
"Ma' 'di dod ar adeg pwysig iawn mewn gwirionedd lle ma' nifer o bobl yn mynd i wynebu trafferthion ariannol dros y misoedd nesaf a gobeithio fydd hwn yn gallu rhoi rywfaint o help i bobl a sicrhau bod 'na siawns iddyn nhw gael o leiaf un pryd maethlon bob wythnos," meddai.
Mae'r ymateb i'r fenter wedi bod yn gadarnhaol iawn hefyd yn ôl Llinos.
"Mae'r ymateb wedi bod yn wych. Does dim dwywaith fod y prosiect yma yn un positif ac yn un sydd yn helpu pobl o fewn y gymuned, ma' 'na nifer fawr iawn o wirfoddolwyr sy'n gwirfoddoli.
"Mae'r bwyd o safon uchel iawn a mae o'n fwyd maethlon a blasus iawn a gyd yn lleol a hefyd ma' nhw'n manteisio ar leihau gwastraff bwyd hefyd."
Yn sgil yr argyfwng costau byw, dywedodd Llinos ei bod yn hollbwysig fod pobl yn gallu cael bwyd maethlon am ddim.
"Fel meddyg, ma'n rywbeth 'dan ni yn ymwybodol iawn ohono fo ac yn poeni yn ei gylch, ydi pobl yn mynd i leihau ar faint o fwyd maethlon ma' nhw'n prynu dros y cyfnod yma os ydyn nhw'n wynebu trafferthion ariannol?
"Felly ma' ca'l y gwasanaeth yma yn bwysig er mwyn sicrhau bod 'na opsiwn o gael bwyd maethlon o safon uchel."