Camau gorfodi cynllun 50mya ar yr M4 yn dod i rym
Bydd y camau gorfodi cynllun 50mya ar yr M4 ger Casnewydd yn dod i rym ddydd Iau.
Mae hyn yn golygu y gallai modurwyr sy'n teithio yn gyflymach na 50mya rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 ar y draffordd dderbyn dirwy.
Daw hyn fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru er mwyn gwella ansawdd aer ar rai o'r ffyrdd sy'n cynhyrchu'r llygredd mwyaf yng Nghymru.
Mae hefyd wedi ei dargedu er mwyn lleihau tagfeydd yn ogystal â gwella diogelwch ar yr ardal yma o'r M4.
Ers i'r terfynau cyflymder amgylcheddol ddod i rym mewn pum ardal gwahanol ar hyd a lled Cymru, mae'r lefelau nitrogen deuocsid wedi gostwng yn yr ardaloedd.
Cafodd mesurau gorfodi eu gweithredu mewn pedair ardal ym mis Hydref y llynedd, gyda'r pumed yn agor heddiw rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 ar yr M4.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol "nad yw terfynau cyflymder arafach yn ddewis poblogaidd, ond mae angen i ni wneud pethau'n wahanol a bod yn fentrus i gael unrhyw obaith o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd".
"Mae'n amlwg bod y terfynau cyflymder rydyn ni wedi'u cyflwyno ar ein ffyrdd mwyaf llygredig yn gweithio - mae'r canlyniadau'n dangos hynny’n glir - ond mae cydymffurfio â'r terfynau hyn yn hanfodol os ydym am gyflawni'r gostyngiadau y mae angen i ni eu gwneud yn yr amser byrraf posibl," meddai.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Michael Richards o Heddlu Gwent fod "pob un o'r pedwar Heddlu yng Nghymru yn cefnogi camau gorfodi'r terfynau cyflymder hyn",