Tîm Pêl-droed Cymru ar ei ffordd i Qatar
Tîm Pêl-droed Cymru ar ei ffordd i Qatar
Mae tîm pêl-droed Cymru wedi gadael Maes Awyr Caerdydd am Qatar ar gyfer cystadlu yng Nghwpan y Byd.
Wedi bore yn ymarfer o flaen cannoedd o ddisgyblion ysgol yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn eu sesiwn ymarfer olaf yng Nghymru, fe wnaeth Rob Page a'i garfan deithio i Faes Awyr Caerdydd ganol y prynhawn.
Fe wnaeth carfan Tîm Rygbi Cymru, sydd wrthi ar hyn o bryd yn chwarae yng Nghyfres yr Hydref, hefyd ymgynnull i ddymuno'n dda i'r chwaraewyr wrth iddynt adael eu gwesty fore Mawrth.
✈️ “World Cup please drive!”#ArBenYByd | #TogetherStronger pic.twitter.com/auesNBkSda
— Wales 🏴 (@Cymru) November 15, 2022
Dywedodd un o'r disgyblion lwcus a gafodd y cyfle i fynd i wylio'r chwaraewyr yn ymarfer yn Stadiwm Dinas Caerdydd ei fod yn "anhygoel jyst gw'bod bod tîm o Cymru, o gwlad mor fach yn mynd i llwyfan y byd, ma' pawb yn mynd i'n gweld ni'n chware, ma'n anhygoel."
WAKA WAKA 🏴#ArBenYByd | #TogetherStronger pic.twitter.com/0c8kJqZ6ln
— Wales 🏴 (@Cymru) November 15, 2022
Bydd Cymru yn cyrraedd Qatar bum niwrnod cyn chwarae eu gêm gyntaf yng ngrŵp B yn erbyn UDA, cyn mynd ymlaen i herio Iran a Lloegr.
Llun: CBD Cymru