
Gweithio ar gynyrchiadau Hollywood yn helpu dylunydd o'r Barri

Mae dylunydd gwisgoedd a phropiau, sydd wedi gweithio ar rai o gynyrchiadau mawr Hollywood, yn dweud bod ei waith wedi’i helpu i ymdopi gyda’i orbryder ac iselder.
Mae Noel Taylor, o’r Barri, yn ddylunydd sy’n gwneud gwisgoedd a phropiau fel swydd llawn amser.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn ystod ei blentyndod, pan roedd e'n gwneud teganau o ddeunyddiau oedd o amgylch y tŷ.
“Roeddwn i arfer gwneud llongau gofod a phethau o gardfwrdd fyddet ti ddim o reidrwydd yn gallu prynu mewn siopau neu bethau doedden ni ddim yn gallu fforddio ar y pryd.”

Fe aeth ymlaen i gynhyrchu offer modelu a chreu pethau o bren, cyn astudio creu modelau ac effeithiau gweledol yn y brifysgol.
Wrth siarad â’r rhaglen gelfyddydau Backstage, bu Noel yn esbonio sut y camodd i mewn i’r diwydiant:
“Dwi wastad wedi eisiau gwneud e ond byth wir wedi gwybod sut oedd gwneud.
“Es i i’r Comic Con yng Nghaerdydd a gwneud maneg Freddy Krueger ‘Nightmare on Elm Street’ i fy hun…
“Yna, roedd pobl wedi gweld hynny a meddwl ‘allet ti greu hyn imi? Allet ti wneud hyn i mi?
“Felly, yn y pendraw, fe wnes i feddwl ‘dwi eisiau gwneud hyn yn fwy ac yn fwy’.”
Datgelodd Noel hefyd ei drafferthion gyda’i iechyd meddwl, a sut mae ei waith wedi bod yn help iddo:
“Fe wnes i ddioddef am flynyddoedd gydag iselder a gorbryder a dwi’n meddwl bod y creu wedi fy helpu i ganolbwyntio. Fe wnaeth fy helpu gydag allbwn i ffocysu’r meddwl.
“Roedd hi fel therapi ac yn dal i fod.
“Er fy mod yn gadael amseroedd tywyll iawn tu ôl i mi, roedd gweithio yn fy helpu felly, dydw i ddim eisiau gadael i hynny fynd.”

Mae angerdd Noel wedi ei arwain at waith gyda rhai o gynyrchiadau mawr Hollywood.
Dywedodd Noel wrth Backstage:
“Dwi wedi gweithio ar ambell beth ar gyfer rhai sioeau teledu mawr ac mae hynny yn parhau, yn ogystal â rhai ffilmiau mawr Hollywood.
“Mae gweithio ar gynyrchiadau mawr yn ffantastig. Mae hi’n wych.
“Dwi’n cael rhyw Syndrom Twyllwr lle dwi’n meddwl: ‘Ydw i’n ddigon da i fod yn gwneud hyn?’ Ond dwi wedi bod fel yna erioed.”
Yn ogystal â’i waith teledu a ffilm, mae Noel yn dylunio gwisgoedd cosplay ac mae e’n mynd i gonfensiynau neu ddigwyddiadau Comic Con yn arddangos ei waith.
Cosplay yw’r weithred o wisgo fel cymeriad allan o ffilm, llyfr neu gêm fideo.
Mae gwaith cosplay Noel yn y gorffennol yn cynnwys llaw Freddy Krueger a ‘Fluffy’, creadur estron.
Mae Noel yn ceisio defnyddio deunyddiau sydd wedi’u hailgylchu yn ei waith, er mwyn helpu gydag arbed arian yn ogystal â bod yn well i’r amgylchedd.