Plentyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger ysgol yn Aberystwyth
14/11/2022
Mae plentyn wedi ei anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Ysgol Penglais yn Aberystwyth ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad yn dilyn adroddiadau fod gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng car a phlentyn am oddeutu 15:20.
Mae'r plentyn wedi ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr ac mae'r ffordd yn parhau ar gau.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un oedd wedi gweld y gwrthdrawiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20221114-253.
Llun: Google