Dyn o Fethesda'n gwadu treisio merch ar draeth ym Môn
11/11/2022Mae dyn o Fethesda wedi gwadu cyhuddiad o dreisio merch ar draeth ym Môn ym mis Awst.
Fe ymddangosodd Lee Howland, 34, mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener drwy gyswllt fideo o Garchar y Berwyn.
Roedd yr ymosodiad honedig wedi digwydd ar draeth Penial ger Llanfachraeth ar 18 Awst eleni.
Plediodd yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Fe fydd yn ymddangos mewn gwrandawiad yr wythnos nesaf.
Darllenwch ragor yma.