Justin Tipuric yn awyddus i ddechrau rôl hyfforddi ar ôl ymddeol
Mae Justin Tipuric wedi dweud y bydd yn awyddus i ymgymryd â rôl hyfforddi pan fydd yn ymddeol o rygbi.
Dywedodd capten Cymru y byddai'n hoffi dychwelyd i hyfforddi, wedi iddo chwarae a hyfforddi Trebanos yn ei ddyddiau cynnar fel chwaraewr.
Bydd Tipuric yn arwain Cymru yn erbyn Yr Ariannin y penwythnos hwn yn dilyn colli yn erbyn Seland Newydd yng ngêm agoriadol gemau'r hydref.
Fe wnaeth Los Pumas guro Lloegr 30-29 y penwythnos diwethaf yn Twickenham, a bydd Cymru angen bod ar eu gorau i ennill.
Yn dilyn ei yrfa ar y cae, mae Tipuric, 33 yn ystyried dychwelyd i hyfforddi.
"Roeddwn yn caru hyfforddi yn Nhrebanos, mae'n glwb gwych ac mae awyrgylch grêt yna," meddai.
"Roedd bod yna yn sicr wedi rhoi blas ar hyfforddi i mi. Dechreuais wneud bach o hyfforddi pan oeddwn yn 19. Roeddwn i'n ifanc ac roedd yn brofiad da. Dyw hyfforddi grŵp o ddynion 30 oed styfnig ddim yn hawdd.
"Mae bod yn hyfforddwr yng Nghymru fel bod yn bysgodyn mewn powlen. Mae e siŵr o fod yn un o'r swyddi anoddf yn y byd rygbi, bron fel hyfforddi Seland Newydd."
Cyn y gêm yn erbyn Yr Ariannin, mae Tipuric yn gwybod y bydd yn gystadleuaeth anodd a bydd angen i Gymru ganolbwyntio trwy'r amser, hyd yn oed pan nad oes gan Los Pumas y bêl.
"Mae'r Ariannin yn dîm sydd bob tro yn chwarae'n angerddol. Mae'n nhw'n beryglus pan nad oes ganddynt y bêl, ond i ni gyd yn awchu i ennill yn dilyn y penwythnos diwethaf ac rydym yn hyderus yn erbyn unrhyw un pan yn chwarae yng Nghaerdydd."