Cymru yn gwneud pedwar newid i'r garfan i wynebu'r Ariannin
Cymru yn gwneud pedwar newid i'r garfan i wynebu'r Ariannin
Mae Cymru wedi gwneud pedwar newid i'r garfan fydd yn wynebu Yr Ariannin y penwythnos hwn.
Fe gollodd y crysau cochion o 55-23 yn erbyn Seland Newydd y penwythnos diwethaf yng ngêm agoriadol gemau'r hydref.
Roedd llawer o obeithion gan gefnogwyr mai hon fyddai'r gêm pan fyddai Cymru yn trechu'r crysau duon, ond siomedig oedd y canlyniad.
Bu'n rhaid i Gymru wneud un newid cyn y gêm oherwydd anaf i’r cefnwr Leigh Halfpenny gyda Gareth Anscombe yn symud i'w le a Rhys Priestland yn dod oddi ar y fainc i safle’r maswr.
Nid yw Halfpenny ar gael i wynebu'r Los Pumas ddydd Sadwrn, ac o ganlyniad bydd Louis Rees-Zammit yn chwarae yn safle'r cefnwr am y tro cyntaf i Gymru - dyma'r tro cyntaf iddo chwarae yn y safle ers 2020.
Bydd Alex Cuthbert yn dychwelyd i'r garfan am y tro cyntaf yr hydref hwn, gyda Rio Dyer yn cadw ei le ar yr asgell arall.
Mae Gareth Anscombe yn dychwelyd i safle rhif 10 gyda Rhys Priestland yn cymryd ei le ar y fainc. Bydd Tomos Williams a Taulupe Faletau yn parhau fel mewnwr ac wythwr.
Fe fydd y bartneriaeth rhwng Nick Tompkins a George North yn parhau wedi i Pivac arbrofi'n gyson gyda'i ganolwyr yn ystod ei gyfnod wrth y llyw.
Yn y safleoedd blaen bydd Dillon Lewis yn chwarae'r safle prop pen tynn gan gymryd lle Tom Francis, ac fe fydd Gareth Thomas a Ken Owens wrth ei ochr.
Mae partneriaeth Will Rowlands ac Adam Beard yn yr ail reng yn parhau.
Bydd y capten Justin Tipuric yn dychwelyd o rôl y blaenasgellwr ochr dywyll i'r ochr agored, wedi iddo orfod symud i wneud lle i Tommy Reffell yn erbyn Seland Newydd.
Fe fydd gan Gymru fainc eithaf amhrofiadol y tro hwn, gyda dim ond 165 cap rhwng yr wyth chwaraewr.
Ar y llaw arall mae enwau mwy cyfarwydd fel Ryan Elias, Kieran Hardy a Rhys Prietsland ar y fainc yn barod i ychwanegu at y profiad fydd eisoes ar y cae.
Mae Cymru wedi ennill tair o'u pump gêm ddiwethaf yn erbyn Yr Ariannin, gyda'r Los Pumas yn ennill y gêm fwyaf diweddar ym mis Gorffennaf 2021, a'r llall yn gêm gyfartal.
Fe lwyddodd Yr Ariannin i guro Lloegr y penwythnos diwethaf.
Carfan Cymru
15. Louis Rees-Zammit, 14. Alex Cuthbert, 13. George North, 12. Nick Tompkins, 11. Rio Dyer, 10. Gareth Anscombe, 9. Tomos Williams, 1. Gareth Thomas, 2. Ken Owens, 3. Dillon Lewis, 4. Will Rowlands, 5. Adam Beard, 6. Dan Lydiate, 7. Justin Tipuric (c), 8. Taulupe Faletau.
Eilyddion: 16. Ryan Elias, 17. Rhodri Jones, 18. Sam Wainwright, 19. Ben Carter, 20. Jac Morgan, 21. Kieran Hardy, 22. Rhys Priestland, 23. Owen Watkin.