Newyddion S4C

Disgwyl i nyrsys ar draws y DU streicio am y tro cyntaf

09/11/2022
S4C

Mae disgwyl canlyniad pleidlais y Coleg Nyrsio Brenhinol ar streicio ddydd Mercher. 

Cafodd pleidlais ei hagor ddechrau mis Tachwedd, ac er nad yw'r canlyniadau wedi eu cyhoeddi eto, mae swyddogion y Coleg Nyrsio Brenhinol yn disgwyl y bydd digon o bleidleisiau o blaid streicio.

Mae gan y coleg dros 300,000 o aelodau, a'r bleidlais sydd newydd gael ei chynnal, yw'r fwyaf yn hanes 106 blwyddyn yr undeb.

Daw’r bleidlais wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi codiad cyflog o £1,400 ar gyfer holl fandiau cyflog y Gwasanaeth Iechyd, sy’n cyfateb i 4%.

Mae’r undeb yn galw am godiad cyflog wedi’i ariannu’n llawn i staff nyrsio o 5% yn uwch na chwyddiant, sef 12% ar hyn o bryd.

Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dweud na fyddai streic yn effeithio ar wasanaethau gofal brys.

Nid yw cyfnod y streicio wedi ei nodi eto, ond bydd disgwyl iddo gael effaith ar lawdriniaethau ac apwyntiadau cleifion.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.